Mae dros bedwar o bob pum disgybl mewn ysgolion cyfrwng Gymraeg yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig wrth ddysgu Cymraeg.
Dyna un o gasgliadau adroddiad ‘Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen’ sydd yn edrych ar ddatblygiad yr iaith mewn ysgolion Cymraeg gan y corff arolygu ysgolion, Estyn.
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais ar ddulliau ‘dysgu drwy chwarae’ yn yr ysgol i blant.
Cafwyd clod yn yr adroddiad am sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu’r disgyblion, oedd ychydig yn uwch na’r canran oedd yn cyflawni yn ôl y disgwyl mewn ysgolion Saesneg eu hiaith (84.3%).
Yn ôl yr adroddiad roedd safonau siarad a gwrando plant 3-4 oed, a safonau cyffredinol plant 4-7 oed, yn datblygu’n dda.
Dywedodd yr adroddiad hefyd fod llawer o ysgolion yn llwyddo i greu cydbwysedd da rhwng “profiadau uniongyrchol, anffurfiol eu naws, a gweithgareddau ffocws sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu”.
Pryderon
Ond mynegwyd pryder yn yr adroddiad “fod cynnydd gormod o blant o gartrefi di-Gymraeg yn rhy araf, a chynnydd rhai plant o gartrefi Cymraeg yn cael ei lesteirio” mewn rhai lleoliadau ac ysgolion ble mae cefndir y disgyblion yn gymysg o safbwynt iaith y cartref.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd sgiliau ysgrifenedig plant cystal â’u sgiliau siarad a gwrando, gan awgrymu bod lleiafrif o ysgolion ble mae plant yn or-ddibynnol am help gan eu hathrawon.
Roedd pryder hefyd yn yr adroddiad fod rhai ysgolion ble nad yw plant “yn gwneud y cynnydd disgwyliedig yn eu medrau llafar, darllen, gwrando ac ysgrifennu” oherwydd nad oedd digon o gyfleoedd i’w cymhwyso’n llwyddiannus ar draws ystod o weithgareddau dysgu ac mewn ardaloedd gweithgarwch gwahanol.
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod rhai ysgolion, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes cymaint o bobl yn siarad Cymraeg, ble nad yw safon a chywirdeb iaith athrawon “yn ddigon da i gynnig model raenus ar gyfer plant”.
Argymhellion
Roedd rhai o argymhellion yr adroddiad yn cynnwys galw ar ysgolion i sicrhau bod disgyblion o bob cefndir yn defnyddio’r Gymraeg wrth iddynt ddilyn gweithgareddau anffurfiol, yn arbennig ar ddechrau’r Cyfnod Sylfaen.
Cafwyd hefyd galwad ar awdurdodau i sicrhau eu bod yn rhannu arferion da o ran datblygu sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg, a chynnig sesiynau gloywi iaith i athrawon a chynorthwywyr.
Awgrymodd y Prif Arolygydd Ann Keane bod lle i wella o ran safonau’r Gymraeg yn yr ysgolion.