Baghdad
Mae o leiaf 22 o bob wedi cael eu lladd ar ôl i hunan fomiwr ymosod ar grŵp o Shiites yn ystod defod grefyddol yn nwyrain Irac.

Digwyddodd y bomio yn nhref al-Saadiyah, tua 90 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Baghdad.

Roedd y Shiites yn cymryd rhan yn nefod grefyddol Ashoura sy’n cael ei chynnal yn flynyddol i goffau marwolaeth ŵyr y Proffwyd Mohammed yn y 7fed ganrif.

Yn ôl adroddiadau, cafodd tua 70 o bobl eu hanafu.

Yn gynharach heddiw, cafodd naw o bererinion Shiite eu lladd i’r de o Baghdad.

Mae defod Ashoura yn cael ei dargedu yn aml gan eithafwyr Sunni sy’n ystyried y Shiites fel hereticiaid.