Mae’r cwmni rhentu DVD, Blockbuster, wedi cyhoeddi y bydd 452 o bobl yn colli eu swyddi wrth i 72 o siopau gau ar ôl mynd i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y byddan nhw’n cau tua chwarter o’r 264 o siopau sydd ganddyn nhw gan gynnwys eu siopau yng Nghaerdydd, Wrecsam, Abertawe a Bangor.

Dydd Llun, aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith eleni yn bennaf oherwydd ei fod wedi colli busnes o ganlyniad i brisiau rhad archfarchnadoedd yn ogystal â’r cynnydd mewn rhentu ar y we, .

Dywedodd y gweinyddwyr heddiw bod trafodaethau gyda darpar brynwyr i rannau o’r busnes yn parhau ac y byddan nhw’n cyhoeddi diweddariad pellach o fewn yr wythnos nesaf.

Dywedodd y gweinyddwyr mewn datganiad: “Dros y dyddiau diwethaf mae ein ffocws wedi bod i asesu sefyllfa ariannol Blockbuster er mwyn ceisio dod o hyd i brynwr ar gyfer y busnes.”

Pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr am y tro cyntaf ym mis Ionawr, roedd gan Blockbuster 528 o siopau yn y DU yn cyflogi 4,190 o staff.

Mae’r gweinyddwyr yn dweud bod rhannau o’r busnes wedi denu diddordeb.

Fe wnaeth Morrisons brynu 49 o hen siopau yn gynharach eleni er mwyn eu troi’n archfarchnadoedd.