Protest haf 2012 - gwnïo ei geg yn gaead
Mae artist perfformio o Rwsia wedi hoelio ei geilliau i’r ddaear y tu allan i’r Sgwâr Coch ym Mosgow, a hynny mewn protest yn erbyn y modd y mae’r heddlu’n gweithredu.

Fe wnaeth Pyotr Pavlensky ei brotest ar Ddiwrnod Cenedlaethol yr Heddlu yn y wlad.

Mae llys wedi gwrthos cyhuddiadau o “hwliganiaeth”, ac wedi ei ryddhau.

Mae Pyotr Pavlensky, sydd wedi brifo ei gorff ei hun yn y gorffennol mewn gweithredoedd cyhoeddus tebyg, wedi dweud mai bwriad y brotest oedd “rhybuddio rhag gafael yr heddlu ar fywyd bob dydd pobol”.

Yn ystod haf 2012, fe wnïodd ei geg yn gaead er mwyn protestio yn erbyn carchariad tri aelod o’r band, Pussy Riot.