Rhisiart III
Mae yna oedi pellach yn y broses o ail-gladdu sgerbwd y Brenin Rhisiart III, a hynny oherwydd nad yw penderfyniad allweddol ynglyn â’r sut i adeiladu ei feddrod.

Roedd disgwyl i weddillion y brenin, a gafodd eu codi o’r ddaear o dan faes parcio yng Nghaerlyr, gael eu claddu yn eglwys gadeiriol y dre’ erbyn diwedd yr ha’ nesa’.

Ond mae criw o’i ddisgynyddion pell yn galw ar iddo gael ei gladdu yng Nghaerefrog, ac maen nhw’n brwydro’r achos yn y llys.

Mae Comisiwn Ffabrig Eglwysi Cadeiriol Lloegr wedi penderfynu peidio â rhoi caniatâd i godi beddrod yng nghadeirlan Caerlyr. Mae angen “mwy o wybodaeth ar bwyntiau allweddol” cyn y bydd yn gallu rhoi caniatâd, meddai.

Mae angen caniatâd y Comisiwn os yw’r eglwys gadeiriol am ail-adeiladu un cornel er mwyn gwneud lle i feddrod y Brenin.

Fe fyddai prosiect o’r fath yn costio £1.3m.