Francois Hollande
Fe fu’n rhaid i arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, anwybyddu bŵ-ian gan brotestwyr mewn gwasanaeth coffa ym Mharis.

Roedd Hollande yn gosod torch wrth gofgolofn milwyr y Rhyfel Mawr ger yr Arc de Triomphe, pan ddechreuodd criwiau bychain yn y dorf weiddi a bŵ-ian.

Roedden nhw’n gweiddi, “Ymddiswydda, Hollande!” ac roedd rhai protestwyr yn gwisgo beret coch, fel y mae protestwyr yn erbyn y system drethu wedi bod yn ei gwisgo yn ddiweddar.

Mae poblogrwydd Francois Hollande wedi disgyn wrth i bobol deimlo’n gynyddol anhapus gyda gwendid yr economi, trethi uchel a diweithdra.