Mae mam wedi cyfadde’ i ladd ei merch fach, tra’r oedd hi’n diodde’ o iselder ar ôl geni.
Bu farw Amelia-Lilly, merch bump wythnos oed Natasha Sultan, ym mis Hydref y llynedd.
Mae Natasha Sultan wedi cyfadde’ i ladd babi, pan ymddangosodd gerbron barnwr yn Llys y Goron Hull heddiw.
Fe fydd hi’n cael ei dedfrydu yfory gan y Barnwr Jeremy Richardson QC.