Dalecs (Llun o wefan doctorwho247.tumblr.com)
Fe fydd dalecs i’w gweld yn ymlwybro yn y Palas Brenhinol yr wythnos nesa’, fel rhan o ddathliad pen-blwydd y gyfres Doctor Who yn 50 oed.

Mae’r ddrama deledu yn dathlu ei phen-blwydd ar ddiwedd y mis, a bydd actorion sydd wedi chwarae rhan y doctor yn y gorffennol yn dod at ei gilydd yn Llundain ar Dachwedd 18.

Mae cystadleuaeth hefyd wedi ei threfnu i ysgolion o dde Cymru, lle mae golygfeydd o Doctor Who yn cael eu ffilmio, a bydd yr enillwyr yn cael cyfle i gyfarfod Iarlles Wessex yn Llundain.

Bydd rhaglen ben-blwydd arbennig yn cael ei dangos ar Dachwedd 23 o’r enw The Day Of The Doctor gyda’r doctor personal a’r cyn ddoctor, David Tennant.

Mae cyfnod Matt Smith fel y Doctor bron ar ben eleni a bydd Peter Capaldi yn dod yn ei le fel y 12fed doctor.