Pobol ifanc fydd yn penderfynu ar gynnwys S4C yn ddiweddarach y mis yma, wrth i’r sianel drosglwyddo’r awenau i’r genhedlaeth iau.

Wythnos i yfory bydd criw o ddeg o bobol ifanc rhwng 18-24 oed yn meddiannu’r Sianel yn ystod, a rhwng, y rhaglenni.

Fel rhan o dymor Tro Ni gan S4C, mi fydden nhw’n cyfansoddi’r gerddoriaeth sydd i’w chlywed ar y sianel, lleisio negeseuon y cyflwynwyr, dylunio’r clipiau rhwng rhaglenni a chyflwyno rhai rhaglenni.

Bydd rhaglenni yn arbennig ar gyfer pobl ifanc hefyd yn cael eu dangos gan gynnwys y ffilm Dyma Fi a dwy ffilm gan yr ysgrifennwyr newydd Elgan Rhys a Ciron Gruffydd.

‘Gwaith prosiect’

Mae’r criw dan sylw yn fyfyrwyr ar brentisiaeth Cyfryngau gyda chwmni Cyfle yng Nghanolfan Gyfryngau S4C yng Nghaerdydd.

“Mae rhai ohonom ni yn dda am olygu, eraill yn dda efo ffotograffiaeth a rhai eraill yn well ar yr ochr gerddorol, felly mae’n waith prosiect go iawn,” meddai Jamie Willetts, 18, o Bontypridd, sy’n un o’r deg ifanc.

Ychwanegodd Comisiynydd rhaglenni pobl ifanc S4C, Sioned Wyn Roberts:

“Mi fydd y Sianel yn edrych yn reit wahanol, a mi fydd yn dipyn o sioc i’r gwylwyr adra dwi’n siŵr! “