Mae fflam Gemau Olympaidd y Gaeaf wedi dechrau ar daith gerdded yn y gofod.

Fe fydd gemau 2014 yn cael eu cynnal yn ninas Sochi yn Rwsia, ac mae sianel NASA Live TV newydd dangos y cosmonôts, Oleg Kotov a Sergei Ryazanskiy yn cario’r llusern (heb fod ynghynn) y tu allan i’r Orsaf Ofod Ryngwladol.

Fe gafodd y llusern ei hanfon i’r gofod o Kazakhstan fore Iau. Fe fydd yn dychwelyd i’r ddaear gyda chriw o dri dyn fore Llun, Tachwedd 11.