Castell Sain Ffagan - cartref "cyfrinachau hanesyddol"
Mae rhaglen o weithgareddau dros bedair blynedd i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi ei chyhoeddi gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Fe fydd y saith amgueddfa sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled Cymru, yn rhan o ddangos effaith y rhyfel ar bobol a bywyd y wlad.
Fe fydd y digwyddiad cynta’ yn digwydd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar Awst 2, 2014. Fe fydd yn cynnwys cyfres o brintiadau a gafodd eu comisiynu gan y Ministry of Information yn 1917 er mwyn annog pobol oedd wedi diflasu ar y rhyfel i barhau i’w gefnogi.
Fe fydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru hefyd yn annog y cyhoedd i blannu miloedd o hadau’r pabi.
Fe fydd Brwydr Coedwig Mametz yn cael ei nodi, lle bu farw miloedd o filwyr o Gymru. Ac fe fydd marwolaeth y bardd Hedd Wyn yng Nghefn Pilkem ger Ypres yng ngwlad Belg, hefyd, yn un o’r digwyddiadau fydd yn cael eu coffau.
O 2015 ymlaen, fe fydd Amgueddfa Cymru Sain Ffagan yn cynnal teithiau i ddod o hyd i “gyfrinachau hanesyddol” Castell Sain Ffagan a gerddi Rhyfel Byd Cyntaf.
Fe fydd yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Drefach Felindre yn edrych ar y modd y bu melinau gwlân Cymru’n gwegian heb ddigon o gytundebau i’w cadw nhw i fynd trwy’r rhyfel.
Yng Nghaerlleon yn y de-ddwyrain o ddechrau 2015 ymlaen, fe fydd y pwyslais ar arfau ac offer rhyfel, rhwng cyfnod y Rhufeiniaid a’r Rhyfel Mawr.
Ymysg y gwaith ymchwil fydd yn digwydd yn Llanberis, fydd edrych ar yr enwau ar Gofeb Ryfel a godwyd yn Chwarel Penyrorsedd, Dyffryn Nantlle.