Angela Merkel - "roedd Kristallnacht yn bwynt isel yn hanes Yr Almaen"
Mae Almaenwyr yn nodi heddiw 75 mlynedd ers ‘Kristallnacht’ – noson y gwydr mâl – pan ymosododd y Natsïaid ar Iddewon yn yr Almaen ac yn Awstria.

Ar Dachwedd 9, 1938, fe gafodd cannoedd o synagogau eu llosgi, fe gafodd cartrefi a siopau a oedd yn berchen i Iddewon eu malu, ac fe gafodd tua 1,000 o bobol eu lladd.

Fe gafodd mwy na 30,000 o Idderwon eu cludo i wersylloedd hefyd y noson honno.

Mae Almaenwyr mewn nifer o ddinasoedd a threfi yn cynnal gwylnosau wrth olau cannwyll heno, ac fe fydd nifer o Iddewon yn siarad am eu profiadau ac yn cofio’r rhai fu farw ar Kristallnacht.

“Roedd Kristallnacht yn ddigwyddiad wnaeth ddwyn anfri ar Iddewon mewn modd anhygoel,” meddai Canghellor yr Almaen, Angela Merkel. “Dyna bwynt isel iawn yn hanes yr Almaen.”

“Ddylen ni, fel Almaenwyr, fyth anghofio’r gorffennol.”