Pablo Neruda
Mae dirgelwch 40 mlynedd ynglyn â marwolaeth un o feirdd mawr y byd, wedi cael ei ddatrys. Ond dyw ei deulu ddim yn fodlon â’r canlyniad.
Mae honiadau wedi’u gwneud ers degawdau i’r bardd o Chile, a’r enillydd Gwobr Lenyddol Nobel, Pablo Neruda, gael ei wenwyno.
Ond mae profion diweddar, wedi i’w gorff gael ei godi ym mis Ebrill eleni, wedi dangos nad oedd cemegion yn ei esgyrn.
Er hyn, dyw ei deulu na’r dyn oedd yn ei yrru o gwmpas, ddim yn fodlon – ac maen nhw’n addo mynnu mwy o brawf.
Bu farw Pablo Neruda dan amgylchiadau amheus yn ystod yr anrhefn a ddilynodd coup milwrol Chile yn 1974. Yn swyddogol, canser oedd achos ei farwolaeth.