Fydd yna ddim cyhuddiadau o ddynladdiad yn cael eu dwyn yn erbyn pum gweithiwr y Gwasanaeth Iechyd, wedi i glaf syrthio’n farw y tu allan i ysbyty.
Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau eu bod wedi canslo mechnïaeth y staff ambiwlans ac ysbyty a gafodd eu harestio fid Rhagfyr diwetha’ ar amheuaeth o achosi marwolaeth Carl Cope oherwydd diofalwch.
Bu farw Carl Cope, 47, o ganlyniad i drawiad ar y galon ym mis Mehefin y llynedd, ar ôl cael ei daro’n wael y tu allan i adran ddamweiniau ac argyfwng Ysbyty Walsall Manor.
Fe gafodd pedwar gweithiwr ambiwlans, 26, 34, 45 a 53 oed; ynghyd â gweithiwr ysbyty 44 oed, eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i’r farwolaeth.