Yr hysbyseb yn cynnwys y Parchedig Hugh Price Hughes
Mae un o gwmnïau diodydd alcoholig mwya’r byd, wedi ymddiheuro am ddefnyddio llun o weinidog dirwestol, a dreuliodd ei oes yn helpu alcoholigion, ar hysbyseb.

Fe ddigwyddodd y camgymeriad wrth i gwmni Heineken geisio hybu seidr Bulmers, gan dynnu sylw at y ffaith i’r ddau frawd a ddechreuodd y busnes dros 120 mlynedd yn ôl, gael benthyciad ariannol i wneud hynny gan eu tad, y Parchedig C H Bulmer.

Ond, yn hytrach na rhoi llun o’r Parchedig Bulmer ar yr hysbyseb, fe ddefnyddiwyd mewn camgymeriad lun o’r Parchedig Hugh Price Hughes, a gafodd ei eni yng Nghaerfyrddin yn 1847.

Fe dreuliodd Hugh Price Hughes flynyddoedd yn helpu’r rheiny oedd yn ddibynnol ar alcohol, gan dynnu sylw at y modd yr oedd y ddiod gadarn yn gallu dinistrio bywydau teuluoedd hefyd.