Mae un person wedi’i ladd, ac wyth wedi ei anafu mewn cyfres o ffrwydriadau bychain y tu allan i bencadlys y Blaid Gomiwnyddol yn ninas Taiyuan.

Mae heddlu a llywodraeth talaith Shanxi wedi cadarnhau i’r ffrwydriadau ddigwydd tua 7.40yb yno.

Mae un o’r rhai sydd wedi’u hanafu wedi diodde’ anafiadau difrifol, ac mae dau gerbyd wedi’u difrodi, yn ôl adroddiadau.

Mae lluniau o’r ffrwydriadau yn dangos y stryd o flaen yr adeilad yn cael ei chau wrth i gerbydau’r gwasanaeth tân, ambiwlansys a cherbydau’r heddlu ddod yno.

Roedd dyn yn gorwedd ar y llawr, ond doedd dim arwyddion allanol o ddifrod i adeiladau yn dilyn y ffrwydriadau.