Andrew 'Tommo' Thomas yn y stiwdio (llun hyrwyddo)
Mae’r sïon yn dew mai DJ poblogaidd o fyd radio masnachol y de-orllewin fydd seren amserlen newydd Radio Cymru. A dydi’r dyn ei hun ddim wedi dweud fel arall wrth golwg360.
Ar hyn o bryd, mae Andrew Thomas o Aberteifi yn darlledu dan yr enw ‘Tommo’ gyda’i sioe frecwast Saesneg ei hun bob bore rhwng 6 a 12 o’r gloch ar orsafoedd masnachol Radio Sir Gâr a Scarlet FM.
Ef hefyd yw llais yr uchelseinydd ym Mharc y Scarlets, Llanelli yn ystod gemau rygbi.
Pan gysylltodd golwg360 â’r DJ ar y ffôn heddiw, wnaeth o ddim gwadu ei fod mewn trafodaethau gyda Radio Cymru. “Yn lle glywsoch chi hynny?” meddai, cyn addo ffonio’n ôl yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru, gyhoeddi y mis hwn sut siâp fydd ar amserlen yr orsaf. Fe ddaeth hi i’r Gadair ym mis Gorffennaf, ac mae hi wedi cynnal ‘Sgwrs Fawr’ er mwyn casglu barn gwrandawyr am y math o wasanaeth y maen nhw am ei gael.
Ond mae siarad eisoes ym Mryn Meirion ac yng Nghaerdydd, ac enw ‘Tommo’ yn cael ei grybwyll fel cyflwynydd newydd a allai ddod yn rhan o amserlen newydd. Gallai hefyd fod yn fodd o ail-gysylltu â gwrandawyr y de-orllewin a gollwyd ers dod â rhaglenni Sian Thomas a Mark Griffiths i ben yn y gornel honno o Gymru.
Andrew Thomas oedd enillydd gwobr Cyflwynydd Radio y Flwyddyn yn 2011, gwobr yr oedd ar ei rhestr fer ym mis Gorffennaf eleni hefyd.