Fe fydd ymgais i greu record byd newydd am y nifer fwyaf o genhedloedd i fod yn rhan o ddrama’r geni yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddiwedd y mis hwn.
Mae’r Parch Irfan John sy’n gweithredu fel Hwylusydd Synod dros yr Eglwys Fethodistaidd, wedi gwahodd cymunedau Caerdydd i fod yn rhan o ddrama’r geni fwyaf amrywiol-ddiwylliannol yn y byd.
Gwelodd y Parch Irfan John o Bacistan y cyfle i weithio gyda chynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig ac mae’n gobeithio cyflwyno pobol o wahanol ddiwylliannau i’w gilydd ac i’r gymuned leol.
Dywedodd: “Roedd yn ffordd o godi pont o ofal rhwng pobl a lledaenu neges heddwch ledled y byd.
“Os bydd pobl o wahanol wledydd, gwahanol gefndiroedd, gwahanol genhedloedd, gwahanol grefyddau, sy’n siarad ieithoedd gwahanol yn gweithio gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, pam nad ydynt mewn mannau eraill yn y byd?”
60 o wledydd
Mae Guinness World Records wedi gosod targed o 50 o genhedloedd gwahanol i ‘r Parch yn y perfformiad o ddrama’r geni, ond mae’n gobeithio adeiladu ar hynny a dod a 60 o genhedloedd ynghyd.
Dywedodd Hannah Wynn Jones, Swyddog Cyswllt â’r Gymuned yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
“Mae’n bwysig bod y Ganolfan yn datblygu cysylltiadau gyda chymunedau amrywiol yng Nghymru yn enwedig gyda phobl fel y Parch Irfan John a’i weledigaeth sydd wedi bod wrth wraidd y prosiect hwn.”
Bydd yr ymgais yn digwydd ar Dachwedd 30 yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Cyhoeddir canlyniad yr ymgais am y record byd tua chwe wythnos yn dilyn y perfformiad.