Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor
Mae hi’n ddiwrnod cenedlaethol Meddiannu Amgueddfeydd ddydd Iau nesaf (Tachwedd 14), lle bydd disgyblion ledled Cymru yn gwneud y swyddi y mae oedolion fel arfer yn eu gwneud.

Fel rhan o’r diwrnod, bydd plant o Ysgol Bethel, Caernarfon yn rhedeg Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor. Fe fyddan nhw’n croesawu ymwelwyr, rhoi sgyrsiau ac yn paratoi arddangosfa o greiriau ar gyfer y cyhoedd.

Mae’r diwrnod cenedlaethol yn cael ei drefnu gan elusen annibynnol Kids in Museums a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru i helpu i roi plant a phobol ifanc wrth galon yr hyn y mae amgueddfeydd yn eu gwneud.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd, sy’n arwain ar faterion treftadaeth:

“Rydym eisoes yn cynnal gweithdai celf ac yn croesawu archeolegwyr ifanc ond mae diwrnod Meddiannu Amgueddfeydd yn gyfle i ni roi rôl fwy blaenllaw i bobl ifanc yn yr amgueddfa.

“Dyma gyfle gwych i blant gael mwynhau wrth ddysgu am hanes a threftadaeth Gwynedd.

“Dw i’n siŵr y bydd y disgyblion yn cael amser wrth eu boddau ac yn rhoi croeso cynnes i bawb fydd yn taro draw i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.”