Mae India wedi lansio ei llong ofod gyntaf i blaned Mawrth heddiw gan obeithio ymestyn y dechnoleg sy’n ymwneud â theithio yn y gofod.
Gwyliodd cannoedd o bobl y roced yn cael ei thanio a chodi o ynys Shriharikota fore ‘ma.
Y disgwyl yw i’r llong ofod deithio 485 miliwn milltir yn ystod y 300 diwrnod nesaf cyn iddi ddechrau cylchdroi o gwmpas planed Mawrth ym mis medi 2014.
Mae rhai wedi amau os ddylai India fod wedi gwario £45m ar y cynllun i anfon llong ofod i blaned Mawrth, ond yn ôl Llywodraeth India y bydd rhaglen ofod y wlad sy’n costio £267million yn creu swyddi da i wyddonwyr a pheirianwyr.