Jeff Cuthbert
Bydd mentrau addysg, cyfleusterau chwaraeon a phrosiectau gofal plant yng nghymunedau tlotaf Cymru yn derbyn miloedd o bunnoedd o gyllid o gronfa newydd gwerth £3 miliwn.
Llywodraeth Cymru sy’n darparu Cronfa Grantiau Bach Trechu Tlodi a fydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo byw’n iach a hyfforddiant i bobol ddod o hyd i waith.
Caiff yr arian ei ddefnyddio mewn Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, sef yr ardaloedd hynny sy’n y 10% uchaf yng Nghymru o ran amddifadedd.
I ddechrau, bydd y 52 Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf yn derbyn £50,000 am y ddwy flynedd ariannol nesaf i gynorthwyo â’u gwaith.
‘Gwneud gwahaniaeth’
Bydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau yn ôl y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert.
“Nod yr arian newydd hwn yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau sydd wir ei angen” meddai.
“O gynnig gofal plant i bobol sy’n cael hyfforddiant, i gefnogi addysg i bobol sy’n edrych am waith a darparu dillad chwaraeon i blant o gefndiroedd tlawd – bydd yr arian hwn yn helpu i wella bywydau miloedd o bobl.”
“Y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru fydd yn cael budd o’r gefnogaeth newydd hon. Mae’r cymunedau hyn yn wynebu costau byw sy’n codi a thoriadau i wariant cyhoeddus a’r system les.”
“Dyma pam y byddwn yn parhau i weithredu i drechu tlodi a sicrhau bod pawb, lle bynnag y cânt eu geni, yn cael yr un cyfleoedd.”