CCA 2.0
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi amddiffyn cynllun i greu cronfa bensiwn ar gyfer cŵn heddlu yn swydd Nottingham.
Dywedodd Paddy Tipping fod y cynllun i greu’r gronfa o £39,000 ar gyfer y 26 ci sy’n gweithio i’r llu yn y sir yn ymgais i gydnabod ‘gwaith caled y cŵn’
Ychwanegodd ei fod hefyd am greu’r cynllun oherwydd ei fod wedi bod yn pryderu bod y plismyn sy’n gweithio gyda’r cŵn yn gorfod talu am y costau o edrych ar eu holau wedi iddynt ymddeol.
Dywedodd Paddy Tipping fod tua chwech chi sy’n gweithio i’r llu yn ymddeol bob blwyddyn ac fel arfer, y plismon oedd yn gyfrifol amdanynt oedd yn edrych ar eu holau am weddill eu bywydau gan dalu am eu bwyd a’u biliau meddygol.
Mae rhai yn gwrthwynebu’r cynllun gan ddweud ei fod yn fwrn ar drethdalwyr y sir.