Mae pobol sydd wedi mewnfudo i Brydain yn ystod y degawd diwethaf wedi cyfrannu £25 biliwn i goffrau’r wlad, yn ôl adroddiad.
Canfu’r astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain fod mewnfudwyr yn llai tebygol o dderbyn budd-daliadau ac yn llai tebygol o fyw mewn tai cymdeithasol na’r bobol oedd eisoes yn bodoli ym Mhrydain.
Mae’r adroddiad yn honni bod mewnfudwyr wedi talu £25bn yn fwy mewn trethi nag ydynt wedi derbyn o ran budd-daliadau yn ystod y degawd.
Dywed yr adroddiad fod pobol sydd wedi symud i fyw i’r Deyrnas Unedig ers 2000 wedi gwneud ‘cyfraniad sylweddol i goffrau’r wlad yn hytrach na bod yn fwrn ar adnoddau Prydain’.