Bydd Aelodau Seneddol yn holi cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog fel rhan o ymdrech Llywodraeth Prydain i reoleiddio’r sector benthyg tymor byr.
Bydd cynrychiolwyr tri o’r cwmnïau mwyaf yn y sector – Wonga, QuickQuid a Mr Lender – yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol Busnes, Arloesedd a Sgiliau heddiw.
Y disgwyl yw i aelodau’r pwyllgor geisio ddod i’r afael â ‘phroblemau dwys’ yn y modd y mae benthyciadau diwrnod cyflog yn denu a thrin cwsmeriaid, gafodd ei amlygu mewn adroddiad gan Swyddfa Masnachu Teg ym mis Medi.
Rheoleiddio
Bydd cwmnïau benthyg arian sy’n codi llog uchel yn cael eu gorfodi i wneud yn siŵr bod eu cwsmeriaid yn gallu ad-dalu’r arian, yn ôl cynlluniau a gyhoeddwyd ym mis Hydref.
O fis Ebrill nesaf ymlaen bydd y cwmnïau sy’n cynnig benthyciadau diwrnod cyflog yn cael eu rheoleiddio a’u goruchwylio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae’r FCA wedi dweud y byddan nhw hefyd yn gallu gwahardd hysbysebion teledu camarweiniol gan y cwmnïau, ac mai dwywaith yn unig y bydd y cwmnïau’n gallu cymryd arian o gyfrif y cwsmer heb ganiatâd.
Bydd rhaid i’r cwmnïau ddarparu gwybodaeth ar ble i gael cymorth dyledion am ddim i bob benthyciwr, a bydd rhaid i’r holl hysbysebion a deunydd hyrwyddo arddangos “rhybuddion risg clir”.
Cwsmeriaid hapus
Ond amddiffynnodd Niall Woss, prif swyddog gweithredol Wonga, dulliau gweithredu’r cwmni ar raglen Newsnight neithiwr.
“Mae ‘na filiwn o gwsmeriaid. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn hapus ond dyw eu lleisiau ddim yn cael eu clywed,” meddai.