Iain Duncan Smith
Bydd tair mam sengl a’u plant yn clywed canlyniad eu her gyfreithiol i bolisi capio budd-daliadau’r Llywodraeth.
Bydd dau farnwr yn dyfarnu a yw rheoliadau newydd i greu uchafswm budd-daliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, yn ‘anghyfreithlon’ ai peidio, gan dorri hawliau dynol menywod di-waith sy’n ceisio magu eu plant ar ben eu hunain.
Mae’r cap budd-daliadau yn gosod cyfyngiad ar daliadau lles, fel bod y cyfanswm o fudd-daliadau sy’n gallu cael ei dderbyn gan unrhyw unigolyn yn cael ei gyfyngu i £350 yr wythnos i unigolion a £500 i deuluoedd.
Dywed cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r tair mam ag un plentyn yr un o Lundain fod y rheoliad yn ‘greulon a mympwyol’ ac ‘yn debyg i ddyddiau’r wyrcws’.
Ond yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau mae’r cap yn galluogi pobol ’i arbed arian ac yn ceisio gostwng y diffyg ariannol gan osod uchafswm budd-daliadau ar yr un lefel ag enillion teuluol’.