Ysgol Gynradd Dihewyd
Mae dyfodol wyth ysgol gynradd yng Ngheredigion yn y fantol heddiw wrth i Gabinet yr awdurdod lleol drafod  ad-drefnu yn y sir.

Bydd y cabinet yn trafod argymhellion i ddechrau’r broses i gau ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi, a chau Ysgol Uwchradd Tregaron gan ddarparu addysg yn yr ardal drwy godi ysgol 3-16 yn Nhregaron.

Bydd y cabinet hefyd yn trafod cynnig i ddechrau’r broses i gau ysgolion cynradd Dihewyd  a Threfilan a chau campws Penuwch Ysgol Rhos Helyg.

Mae swyddogion hefyd am i’r cabinet roi eu sêl bendith i gau Ysgolion Cwrtnewydd, Llanwenog a Llanwnnen gan godi Ysgol Ardal yn Nhrefach yn eu lle.

Dywed y cyngor fod 1,000 yn llai o blant yn y sir nag oedd yno ddegawd yn ôl.