Fe fydd cyfle i ffermwyr Cymru ailddechrau gwerthu cig eidion i’r Unol Daleithiau.
Ac, yn ôl un o undebau’r ffermwyr, fe allai hynny fod werth £60 miliwn i’r diwydiant ffermio yma.
Fe fydd y gwaharddiad yn cael ei godi’n swyddogol yn gynnar y flwyddyn nesaf.
BSE
Mae’r awdurdodau yn Washington wedi cyhoeddi y byddan nhw’n codi gwaharddiad ar fewnforio cig eidion o Ewrop i’r wlad ar ôl 15 mlynedd yn sgil clefyd y gwartheg gwallgo.
Mae undeb ffermwyr yr NFU Cymru wedi croesawu’r newyddion gan ddweud ei fod yn gyfle i werthu cig i farchnad newydd.
Cafodd cig eidion ei wahardd gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr 1990au yn sgil pryderon am glefyd BSE mewn gwartheg.
Ymateb yr undeb
Dywedodd Dafydd Roberts, cadeirydd pwyllgor anifeiliaid, gwlân a marchnadoedd NFU Cymru:“Gallai allforio cig eidion a chig oen i’r Unol Daleithiau fod yn werth mwy na £60m y flwyddyn ond bydd yn cymryd ychydig o amser i ddangos i’r UDA ein bod yn cynhyrchu cig gwych o safon uchel.
“Mae angen inni sicrhau bod ein dulliau profi cig yn cael eu cydnabod gan yr Unol Daleithau ond cyn gynted ag y bydd hynny’n digwydd rwy’n gobeithio y bydd pobol America yn mwynhau cig eidion o Gymru.”