M&S Caerdydd
Fe syrthiodd elw cwmni siopau M&S am y nawfed chwarter yn olynol.
Er fod gwerthiant bwyd wedi codi unwaith eto, roedd yna gwymp yn ngwerthiant dillad a nwyddau tŷ.
Mae canlyniadau’r cwmni’n cael eu hystyried yn arwydd o iechyd yr economi – yn ôl M&S, does dim tystiolaeth fod pobol wedi dechrau gwario eto.
Y manylion
Fe gwympodd elw’r cwmni o 8.9% tros chwe mis cynta’r flwyddyn – i lawr i ychydig tros £260 miliwn.
Roedd gwerthiant dillad a nwyddau tŷ wedi syrthio 1.3% yn ystod trydydd chwarter eleni, ond roedd hynny ychydig yn well na’r disgwyl.
Yn ôl Prif Weithredwr y cwmni, Marc Bolland, roedd yna arwyddion fod eu hymgyrch fawr i werthu dillad menywod yn dechrau gweithio.