Y Tywysog Charles
Mae angen ystyried a yw cwmni masnachol y Tywysog Charles yn cael mantais annheg tros fusnesau eraill oherwydd ei drefniadau talu treth.

Dyna argymhelliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus San Steffan sy’n dweud bod angen moderneiddio trefniadau’r Duchy of Cornwall a gyfrannodd incwm o £19 miliwn i’r Tywysog y llynedd.

Mae’r Duchy yn cynhyrchu a gwerthu bwydydd ond, yn ôl y Pwyllgor, dyw’r stad ddim yn gorfod talu treth gorfforaethol a threth enillion cyfalaf, fel busnesau a pherchnogion eraill.

‘Mantais annheg’

“Dyw’r Trysorlys ddim yn gwneud digon i gadw llygad iawn ar drefniadau ariannol y Duchy,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Margaret Hodge. “Mae’n dibynnu ar y Duchy i roi gwybodaeth gywir heb djecio’n annibynnol ei hunan.

“Dyw’r Duchy ddim yn gorfod talu treth er ei fod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau masnachol.

“Efallai fod hyn yn rhoi mantais annheg iddo tros gystadleuwyr sy’n talu treth gorfforaethol a threth enillion cyfalaf. Dylai’r Trysorlys ystyried a yw eithrio’r Duchy rhag treth yn creu sefyllfa annheg.”

Ateb y Tywysog

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Tywysog y bydden nhw’n ystyried adroddiad y Pwyllgor ond nad oedden nhw’n credu bod y Duchy’n cael mantais annheg.