Andrew Mitchell yn Stryd Downing (Gwifren PA)
Mae dau blismon sy’n rhan o ffrae ‘Plebgate’ yn wynebu cael eu ceryddu’n gyhoeddus heddiw wrth iddyn nhw ymddangos gerbron Aelodau Seneddol i ymddiheuro am gynnig ‘tystiolaeth gamarweiniol’.

Bydd cynrychiolwyr Ffederasiwn yr Heddlu, y Ditectif Sarjant Stuart Hinton a’r Sarjant Chris Jones yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol Materion Cartref am yr ail dro mewn pythefnos.

Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor, roedd tystiolaeth tri heddwas “o bosib yn fwriadol gamarweiniol”.

Mae’r ddau yn gwadu hynny.

Y cefndir

Mae’r helynt yn deillio’n ôl i ddigwyddiad a arweiniodd at ymddiswyddiad Prif Chwip Llywodreth Prydain, Andrew Mitchell, ym mis Medi y llynedd.

Fe gafodd ei gyhuddo o alw heddlu yn Downing Street yn “plebs” ond mae’n ymddangos bellach nad oedd hynny’n wir.

Mae’r ddau blismon wedi cael eu cyhuddo o geisio pardduo enw Andrew Mitchell drwy wneud sylwadau camarweiniol yn dilyn cyfarfod gydag ef ym mis Hydref y llynedd.

Y Pwyllgor

Pan ymddangoson nhw gerbron y Pwyllgor Dethol ym mis Hydref eleni, fe fynnodd y ddau, ynghyd ag Arolygydd Ken MacKaill, nad oedden nhw wedi gwneud dim byd o’i le.

Maen nhw wedi ymddiheuro am siarad gyda’r cyfryngau yn syth ar ôl y cyfarfod gydag Andrew Mitchell ond maen nhw wedi gwrthod ymddiheuro am eu sylwadau tan heddiw.

Mae cofnodion o’r cyfarfod yn dangos bod yr AS wedi ymddiheuro am regi at y plismyn ond wedi mynnu na ddefnyddiodd y gair ‘plebs’.

Roedd  yr Arolygydd Ken MacKaill wedi honni wedyn bod Andrew Mitchell wedi gwrthod rhoi esboniad am y digwyddiad.

Chafodd yr un o’r tri ddim eu disgyblu yn dilyn ymchwiliad mewnol gan Heddlu Gorllewin Mercia.