Huw Lewis - am fynd i'r gogledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod honiadau nad yw’r Gweinidog Addysg yn ymweld â digon o ysgolion led led Cymru.

Maen nhw wedi cyhuddo llefarydd addysg y Ceidwadwyr o “ymosodiad ymosodiad gwan yn erbyn y Gweinidog sydd wedi cyfarfod â nifer o athrawon, undebau athrawon, awdurdodau lleol a deiliad â ddiddordeb eraill ers iddo gael ei benodi.”

Ac maen nhw’n dweud bod Huw Lewis yn ymweld â gogledd Cymru y mis nesa’ – ymweliad a oedd wedi ei drefnu ers tro.

Roedd yr AC Ceidwadol Angela Burns wedi cyhuddo Huw Lewis o beidio ag ymweld ag ysgolion i’r gogledd o’r Rhondda.

Roedd hi’n honni ei fod mewn “byncer” yng Nghaerdydd ac nad oedd yn gwrando digon ar bobol yn y maes … ond mae’r Llywodraeth wedi gwrthod hynny.

Ymateb y Llywodraeth

“Mae’r Gweinidog yn ystyried bod ei gydweithrediad gyda’r sector o’r pwysigrwydd eithaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fe gyflwynodd araith bwysig i 100 aelod o’r sector addysg gan gynnwys prif athrawon o bob cwr o Gymru fis diwethaf.

“Mae’n edrych ymlaen at gynnal ymweliadau yng Ngogledd Cymru fis nesaf ac mae’r ymweliadau hyn wedi bod yn ei ddyddiadur ers peth amser.”