Alun Davies wnaeth y cyhoeddiad
Llanrwst yw’r ardal ddiweddara’ i dderbyn cymorth ariannol i geisio i atal effeithiau llifogydd.
Ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod mwy na 15% o dai’r wlad mewn peryg o lifogydd.
Mae Llanrwst, sydd ar lan yr Afon Conwy, wedi dioddef o ddifrod sylweddol gan lifogydd dros y blynyddoedd ac mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol, Alun Davies, wedi cymeradwyo cynllun gwerth £604,000 i geisio gwella’r sefyllfa.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar leihau’r peryg o lifogydd mewn 42 o gartrefi a busnesau yng Nghae Person a Maes Tawel – dwy stad sydd wedi dioddef yn ddifrifol yn y gorffennol.
Ond mae’n debygol y bydd yn costio £5 miliwn i atal y peryg yn llwyr.
Dechrau gwaith
Wrth gyhoeddi’r gronfa newydd, dywedodd Alun Davies:
“Rwy’n falch o ddweud y bydd yr arian yn caniatáu i waith ddechrau ar y cynllun y flwyddyn hon, a fydd yn gwarchod tai a busnesau rhag effeithiau dinistriol llifogydd.”
“Mae un o bob chwech o gartrefi yng Nghymru mewn peryg o ddioddef o effeithiau llifogydd wrth i’r hinsawdd newid a lefel y môr godi” meddai.