Hysbyseb am dai Glasdir (Llun yr adeiladwyr, Taylor Wimpey)
Fe fydd rhaglen deledu’n honni mai gwendidau cynllunio oedd yn rhannol gyfrifol am lifogydd a effeithiodd ar fwy na 120 o dai flwyddyn yn ôl.

Mae rhai o drigolion stad Glasdir yn Rhuthun yn dweud bod lloriau eu tai yn is nag y dylen nhw fod.

Fe fydd y rhaglen Week In Week Out yn darlledu’r honiadau heno, gyda’r honiad fod lloriau’r tai yn is nag oedd yn cael ei ddangos mewn cynlluniau.

Fe fydd trigolion yn cyhuddo Cyngor Sir Ddinbych o fethu â sicrhau fod adeiladwyr yn cadw at eu cynlluniau, gydag un wraig yn mynnu y dylai llawr ei thŷ hi fod 55cm neu 22 modfedd yn uwch.

Fe gafodd 122 o dai eu difrodi ar y stad yn y llifogydd mawr yn mis Tachwedd y llynedd – stad oedd wedi ei chodi ar dir oedd yn enwog am lifogydd.

Mae’r Cyngor Sir y dweud bod y lloriau’n cyrraedd y safonau angenrheidiol.