John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America
Mae John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America, yn Cairo i geisio gwella’r berthynas rhwng America a’r Aifft.

Dyma’i ymweliad cyntaf ers i’r arlywydd Mohammed Morsi gael ei ddisodli gan y fyddin ym mis Gorffennaf – digwyddiad a arweiniodd at lywodraeth America’n atal cannoedd o filiynau o ddoleri mewn cymorth.

Mewn cynhadledd newyddion ar y cyd rhwng John Kerry a Gweinidog Tramor yr Aifft, Nabil Fahmy, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol America nad cosb oedd atal y cymorth ond rhywbeth a oedd yn ofynnol yn gyfreithiol. Roedd hyn oherwydd bod byddin yr Aifft wedi dymchwel llywodraeth a gafodd ei hethol yn ddemocrataidd, meddai.

Annog democratiaeth

Gan annog yr Eifftwyr i barhau ar eu ‘taith at ddemocratiaeth’, dywedodd John Kerry:

“Mae’r Unol Daleithiau’n gyfaill ac yn bartner i bobl yr Aifft ac mae arni eisiau cyfrannu at lwyddiant y wlad.”

Dywedodd Nabil Fahmy fod sylwadau John Kerry a’r cynlluniau sydd wedi cael eu cyflwyno gan bennaeth milwrol yr Aifft, y Cadfridog Abdel-Fattah el-Sissi, yn dangos bod y ddwy ochr yn anelu at adfer y berthynas rhwng ddwy wlad.

Mae cynlluniau’r Cadfridog yn cynnwys diwygio’r cyfansoddiad Islamaidd ei naws a gafodd ei fabwysiadu gan Mohammed Morsi y llynedd, cynnal refferendwm cyn diwedd y flwyddyn ac etholiadau seneddol ac arlywyddol  erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.