Mae swyddogion carchar yn beio toriadau’r llywodraeth ar ôl helynt mewn carchar yng Nghaint neithiwr – ac yn rhybuddio y gallai fod gwaeth i ddod.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tân eu galw i garchar Maidstone lle bu tua 40 o garcharorion yn cadw reiat am dros deirawr.
Dywed y Weinyddiaeth Cyfiawnder i’r helynt gael ei ddatrys neithiwr ac na chafodd unrhyw staff na charcharorion eu hanafu – ac nad oedd tystiolaeth o ddifrod chwaith.
Yn ôl Cymdeithas y Swyddogion Carchar, roedd yr helynt o ganlyniad i doriadau mewn staff a oedd yn arwain at garcharorion yn gorfod treulio mwy o amser yn eu celloedd.
“Fel undeb rydym wedi bod yn rhybuddio yn erbyn hyn ers tro,” meddai is-gadeirydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar, Ralph Valerio.
“Roedd staff wedi bod yn rhybuddio fod anniddigrwydd cynyddol ymysg carcharorion yno.
“Fe allwn ddisgwyl gweld mwy o hyn nid yn unig yng ngharchar Maidstonde ond mewn carchardai ledled Cymru a Lloegr.”
Protest arall
Fe fu protest gan garcharorion yn Rye Hill, ger Rugby yn Swydd Warwick yn ogystal, ond nid oedd unrhyw gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad, yn ôl y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
“Fe wrthododd tua 60 o droseddwyr â dychwelyd i’w celloedd, ond cafodd hyn ei ddatrys yn heddychlon mewn ychydig oriau,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth.