Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi cefnu ar gynllun dadleuol o orfodi ymwelwyr o rai gwledydd i dalu blaendal o £3,000 i gael dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Roedd disgwyl i’r cynllun gael ei dreialu o’r mis yma ymlaen fel ffordd o rwystro ymwelwyr rhag aros ym Mhrydain ar ôl i’w fisas ddod i ben.

O dan y cynllun fe fyddai ymwelwyr o India, Pacistan, Sri Lanka, Bangladesh, Ghana a Nigeria yn gorfod talu’r blaendal am fisa chwe mis.

Ond mae llefarydd ar ran y Llywodraeth yn cael ei ddyfynnu yn y Sunday Times yn dweud eu bod wedi penderfynu cefnu ar y syniad.

Yn gynharach eleni, roedd y cynllun wedi cael eu gollfarnu gan arweinwyr busnes yn India fel un ‘cwbl ragfarnllyd’ ac un a fyddai’n groes i’r ‘berthynas arbennig’ rhwng India a Phrydain.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg hefyd wedi bygwth rhwystro’r cynllun.