Mae tribiwnlys troseddau rhyfel yn Bangladesh wedi dedfrydu dau ddyn i farwolaeth am droseddau yn erbyn y ddynoliaeth yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad yn erbyn Pacistan yn 1971.
Mae un o’r ddau, Chowdhury Mueen Uddin, yn byw ym Mhrydain, a’r llall, Ashrafuzzaman Khan, yn byw yn Efrog Newydd.
Cafwyd y ddau’n euog o gipio a llofruddio 18 o bobl gan gynnwys naw o athrawon prifysgol, chwe newyddiadurwr a thri meddyg ym mis Rhagfyr 1971.
Cafodd eu ddau eu profi in absentia ar ôl iddyn nhw wrthod dychwelyd i Bangladesh i wynebu’r achos.
Mae’r Swyddfa Gartref yn gwrthod cadarnhau na gwadu a oes cais wedi cael ei wneud gan Bangladesh i estraddodi Chowdhury Mueen Uddin. Dywed nad yw’n arferiad gan lywodraeth Prydain i wneud unrhyw sylw ar geisiadau o’r fath hyd nes y bydd rhywun yn cael ei arestio mewn cysylltiad â’r cais.