Kevin Brennan, AS Gorllewin Caerdydd
Mae Aelod Seneddol blaenllaw wedi derbyn £20,000 o iawndal i setlo achos yn erbyn perchnogion y News of the World am hacio’i ffôn.

Fe fu Kevin Brennan, Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd ers 2001, yn dal amryw o swyddi o dan lywodraethau Tony Blair a Gordon Brown cyn cael ei benodi’n weinidog dros addysg bellach, sgiliau, prentisiaethau a materion defnyddwyr yn 2009.

Mae bellach yn un o lefarwyr yr wrthblaid ar addysg.

Mae’n cadarnhau yng nghofrestr buddiannau ariannol y Senedd iddo dderbyn £20,000 gan News Group Newspapers ar 30 Gorffennaf eleni. Dyma’r cwmni oedd yn berchen ar y News of the World cyn i’r papur ddod i ben ac sy’n dal i gyhoeddi’r Sun. Dywed y cofnod “fod hyn yn setliad am achos ym ymwneud â hacio ffôn”.

Nid oedd yn fodlon gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.