Gwersyll Natsïaidd Auschwitz yng ngwlad Pwyl
Mae’r wefan arwerthu eBay wedi ymddiheuro ar ôl i eitemau a oedd yn eiddo i bobl fu farw yn Auschwitz gael eu darganfod ar werth ar y wefan.

Mae’r nwyddau wedi cael eu tynnu’n ôl ac mae e-Bay wedi cyfrannu £25,000 at elusen.

Roedd yr eitemau’n cynnwys

  • iwnifform y dywedir ei bod yn eiddo i bobydd o wlad Pwyl a fu farw yn Auschwitz, a oedd ar werth am £11,200
  • esgidiau a brws dannedd
  • bandiau braich gyda Seren Dafydd arnynt a fyddai’n cael eu defnyddio i nodi Iddewon.

Meddai llefarydd ar ran eBay:

“Mae’n ddrwg iawn gennym fod yr eitemau hyn wedi cael eu rhestru ar eBay ac rydym wedi eu dileu.

“Dydyn ni ddim yn caniatáu gwerthiannau o’r fath, ac rydym yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddarganfod eitemau na ddylai fod o’r werth.

“Ymddiheurwn am fethu â chadw at ein safonau ein hunain.”