Y cyn-brif chwip Andrew Mitchell
Fe fydd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad annibynnol i ymddygiad plismyn sy’n honni i’r cyn-brif chwip Andrew Mitchell eu galw’n ‘plebs’.
Fe fydd tri chynrychiolydd o Ffederasiwn yr Heddlu’n cael eu galw’n ôl i’r senedd hefyd i ymddiheuro am dystiolaeth ‘gamarweiniol’ y gwnaethon nhw ei roi gerbron y pwyllgor dethol ar faterion cartref yno.
Roedd y tri – yr arolygydd Ken MacKall, y Ditectif Ringyll Stuart Hinton a’r Rhingyll Chris Jones – wedi cyfarfod ag Andrew Mitchell yn ei etholaeth ar ôl digwyddiad yn Stryd Downing y llynedd.
Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach na wnaethon nhw roi adroddiad cywir i’r wasg o’r cyfarfod hwnnw, gan fod aelodau o staff Andrew Mitchell wedi tapio’r sgwrs.
‘Anghysondeb’
Dywedodd dirprwy gadeirydd Comiswn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, Deborah Glass, fod anghysondeb rhwng yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno iddyn nhw gan yr heddlu a’r hyn a gafodd ei ddweud yn y senedd.
“Fe all yr anghysondeb arwain at danseilio hyder y cyhoedd yn ymchwiliad mewnol yr heddlu,” meddai.
“Yr unig fath o ymchwiliad a fyddai’n cynnal hyder yng nghyfundrefn yr heddlu fydd ymchwiliad annibynnol, gan staff Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu, a dyma a fydd yn digwydd bellach.”
Ni fydd neb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad gwreiddiol yn cael cymryd rhan ynddo.