Roedd tua 100 o gartrefi’n dal i fod heb drydan y bore yma ar ôl i wyntoedd cryfion daro rhannau helaeth o’r de drwy’r dydd ddoe.

Cafodd gwyntoedd o 89 milltir yr awr eu cofnodi yn y Mwmbwls ger Abertawe.

Dywed y cwmni cyflenwi trydan, Western Power Distribution, fod y gwyntoedd cryfion wedi effeithio ar 25,000 o’u cwsmeriaid a bod eu peirianwyr wrthi’n atgyweirio’r cyflenwad.

Fe fu’r M4 wedi cau yn y ddau gyfeiriad am ddwyawr rhwng Margam a’r Pîl ar ôl i garafan droi drosodd, ac mae’r storm wedi achosi difrod yma ac acw ledled y de wrth i goed ddymchwel.

Er bod y gwyntoedd yn gostegu, mae disgwyl rhagor o law trwm.

Rhybuddion llifogydd

Roedd wyth o rybuddion llifogydd yn dal mewn grym y bore yma – yn Aberystwyth, Borth a Clarach; Neigwl a Dale yn Sir Benfro; a Phenclawdd ar Benrhyn Gwyr a Phorthcawl.

Roedd saith o rybuddion melyn hefyd yn dal mewn grym yn nalgylch afon Efyrnwy, arfordir gorllewin Môn, Bae Abertawe ac arfordir Gwyr, arfordir Sir Gaerfyrddin, arfordir Sir Benfro, arfordir Ceredigion ac ar benrhyn Llyn.

Erbyn amser cinio fodd bynnag roedd y mwyafrif o’r rhain wedi’u codi gyda thri rhybudd melyn yn unig mewn grym – ym mlaenau afon Hafren a dalgylch Efyrnwy ym Mhowys ac ym Mae Abertawe ac arfordir Gwyr.

Mae disgwyl y bydd rhagor o law trwm heno, er nad yw’n ymddangos bod storm cynddrwg â Sant Jude yr wythnos ddiwethaf ar y ffordd.

Mae rhagolygon am ddiwrnod gwell fory gydag ysbeidiau sych a heulog ledled Prydain ond mae’r glaw’n debygol o ddychwelyd o ddydd Mawrth ymlaen.