Fe gafodd pump o bobol eu hanafu pan ffrwydrodd bom mewn marchnad yng ngogledd-ddwyrain India.
Mae’r awdurdodau yn Imphal, prifddinas talaith Manipur, yn dweud fod y bom wedi ei ffrwydro o bell, tra’r oedd masnachwyr yn gosod eu stondinau, a chyn i’r farchnad agor.
Mae pedwar o’r rheiny gafodd eu hanafu yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Does neb, eto, wedi hawlio cyfrifoldeb.