Mae’r archfarchnad Asda wedi gyrru’r cwch i’r dwr trwy gyhoeddi y bydd yn cyflwyno toriadau pellach i bris petrol.
O fory ymlaen, fe fydd cwsmeriaid yn gallu prynu litr o betrol di-blwm am 126.7c, gyda litr o ddiesel yn costio 133.7c.
“Does dim rhaid i’n cwsmeriaid ni wneud rhyw syms cymhleth na chasglu talebau er mwyn gallu fforddio llenwi eu ceir,” meddai llefarydd ar ran Asda.
“Maen nhw’n talu’r union swm maen nhw’n ei weld wrth y pwmp.
“Dyma’r isa’ y mae ein pris petrol ni wedi bod eleni, ac rydan ni’n addo nad oes raid i neb sy’n prynu eu petrol yn Asda orfod talu premiwm oherwydd lle maen nhw’n byw.”