Aelwydydd tlota’
Cymru sydd am gael eu heffeithio fwyaf gan y cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar ynni Llyr Gruffydd AC.

Mae’r Aelod Cynulliad felly wedi dweud fod angen i Gymru gael cwmni ynni nid-am-ddifidend, yn debyg i gwmni dŵr Cymru, fel bod modd dychwelyd unrhyw elw i’r cwsmeriaid a gwella effeithiolrwydd ynni i arbed arian.

“Mae’n hen bryd i Gymru gymryd y cyfrifoldeb llawn am bolisi ynni, yn hytrach na’i adael yn nwylo San Steffan” meddai.

Yr aelwydydd tlotaf i ddioddef

Mae Llyr Gruffydd wedi datgelu fod yr aelwydydd tlotaf yn talu tua £100 yn fwy’r flwyddyn nac aelwydydd gwell eu byd.

Dywedodd fod cartrefi yng Nghymru sy’n talu am drydan a nwy trwy gredyd neu ymlaen llaw, dalu rhwng 7% a 9% yn fwy am yr un faint o ynni a chartrefi oedd yn talu trwy ddebyd uniongyrchol llynedd.

Roedd cwsmeriaid oedd yn talu ar gredyd wedi talu ar gyfartaledd £1,362 yn y de a £1,365 yn y gogledd am eu biliau cyfun trydan a nwy.

Ond fe dalodd gwsmeriaid debyd uniongyrchol £100 yn llai, cyfartaledd o £1,265 yn y de a £1,248 yn y gogledd, yn ôl llefarydd Plaid Cymru.

Talodd cwsmeriaid Cymreig yn gyffredinol y biliau uchaf ym Mhrydain, gyda chost gyfartalog i gwsmeriaid de Cymru o £1,310 and £1,298 yn cael ei godi ar gwsmeriaid gogledd Cymru.

Gwarth

“Mae prisiau ynni yng Nghymru yn warth cenedlaethol,” meddai Llyr Gruffydd.

“Mae cwsmeriaid yma yn talu mwy nac yn unman arall yn Lloegr a’r Alban, er bod Cymru yn cynhyrchu mwy o drydan nac y mae’n ddefnyddio.

“Mae’n arbennig o annheg fod cwsmeriaid na all, am ba bynnag reswm, dalu trwy ddebyd uniongyrchol wynebu talu trwy eu trwynau am filiau trydan a nwy.

“Rhaid gweithredu i atal pobl rhag disgyn i dlodi tanwydd dros fisoedd y gaeaf, gan y bydd y codiad prisiau hwn yn gwneud pethau’n waeth.