Fe fydd dwy ysgol Babyddol yn Sir Ddinbych yn cael clywed heddiw p’un ai fyddan nhw’n gorfod uno ai peidio.
Fe allai Ysgol St Ffraid ar gyrion tre’ Dinbych ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones yn Y Rhyl gael eu huno er mwyn creu ysgol newydd dan un prifathro ac un corff llywodraethol – a hynny er eu bod nhw ar ddau safle 12 milltir oddi wrth ei gilydd.
Mae golwg360 yn deall y bydd cynghorwyr yn cael eu cynghori i ollwng y syniad mewn cyfarfod brynhawn heddiw.
Dros y misoedd diwetha’, mae rhieni a disgyblion wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cau yr un o’r ddwy ysgol. Ond mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn edrych ar sefyllfa’r ysgolion oherwydd bod cymaint o lefydd gwag.