Mae’r gost o ddysgu dreifio yn rhy ddrud i nifer o bobo ifanc – ac mae hynny’n golygu fod llawer iawn llai ohonyn nhw’n mentro y tu ôl i’r olwyn.

Mae ystadegau sydd wedi’u rhyddhau gan Lywodraeth Cymru yn dangos fod 6,000 yn llai o bobol ifanc wedi mynd ati i gael gwersi gyrru y llynedd.

Mae asiantaeth foduro yr AA wedi rhoi’r bai ar gost y gwersi, yswirio ceir pobol ifanc, a pha mor ddrud ydi hi i brynu car.

Ar hyn o bryd, mae hi’n costio £31 i sefyll prawf theori, £62 am y prawf ymarferol, ynghyd â £50 am gael trwydded er mwyn mynd ar y lôn i ddysgu.