Mae dyn a menyw wedi marw ar ôl i goeden gwympo gan achosi ffrwydrad nwy.
Daethpwyd o hyd i gorff y dyn, a oedd yn ei 40au, o dan rwbel mewn tŷ yn Hounslow, Gorllewin Llundain, tua hanner dydd heddiw. Mae ei deulu wedi cael ei hysbysu.
Daethpwyd o hyd i gorff y fenyw awr a hanner yn ddiweddarach, ac mae’r heddlu yn dal i drio ei hadnabod.
Cafodd tri thŷ eu difrodi gan y ffrwydrad, ac fe gafodd tri o bobol eraill eu cludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.