Mae’r swyddog undeb oedd yng nghanol yr anghydfod diwydiannol yn Grangemouth wedi ymddiswyddo.

Mae’r cwmni sy’n berchen y safle petro-gemegol yn yr Alban wedi cadarnhau bod Stevie Deans wedi rhoi’r gorau i’w waith ar ôl bod yno am 24 blynedd.

Roedd Stevie Deans wedi cael ei wahardd o’i waith dros dro gan y cwmni yn sgil honiadau ei fod wedi bod yn gweithio i undeb Unite yn ystod oriau gwaith.

Cyhuddiad

Cafodd hefyd ei gyhuddo, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Blaid Lafur yn etholaeth Falkirk, o geisio sicrhau y byddai ymgeisydd penodol yn cael ei ddewis i gynrychioli’r Blaid Lafur yn etholiad San Steffan.

Cyhuddodd y Blaid Lafur undeb Unite o lenwi’r etholaeth gydag aelodau newydd heb i’r aelodau hynny wybod, gydag Ed Miliband yn galw ar arweinydd Unite, Len McCluskey i gondemio y ‘camarfer’ yn yr etholaeth.

Cafodd Stevie Deans ei wahardd o’r Blaid Lafur dros dro ond cafodd ei ryddhau o unrhyw fai yn dilyn ymchwiliad.

Ymchwiliad

Ond penderfynodd Ineos gynnal ymchwiliad ei hunain ynghylch yr anghydfod a arweiniodd at aelodau’r undeb yn Grangemouth benderfynu cynnal streic ynghylch y ffordd y cafodd Stevie Deans ei drin.

Penderfynodd yr undeb dynnu nôl o’r streic ond yr wythnos diwethaf mynnodd Ineos nad oedd dewis ond cau’r safle ar ôl iddyn nhw fethu a darbwyllo’r staff i dderbyn cynllun sy’n cynnwys rhewi cyflogau, dod a chynllun pensiwn cyflog terfynol i ben, a newidiadau eraill i amodau gwaith.

Dywed Ineos eu bod nhw wedi bod yn gwneud colledion o £10m y mis yn Grangemouth.

Roedd 800 o swyddi yn y fantol gyda’r posibilrwydd y gallai 2,000 o gontractwyr hefyd golli eu swyddi tan i’r undeb gytuno i delerau Ineos.