Mae awyren genedlaethol newydd Serbia wedi cael ei henwi ar ol Novak Djokovic, chwaraewr tenis mwya’ llwyddiannus y wlad, sydd ar hyn o bryd yn ail ar restr detholion y byd.

Mae awyren Airbus A319 yn dwyn logo eryr gyda dau ben, yn lliwiau coch, gwyn a glas, yn gwneud ei ehediad cynta’ erioed heddiw i Abu Dhabi. Mae enw Djokovic wedi’i brintio mewn llythrennau breision ar ran flaen yr awyren.

Mae cwmni Air Serbia wedi ei ffurfio mewn partneriaeth gyda chwmni Etihad Airways, sydd berchen 49% o’r cyfranddaliadau. Mae’r cwmni newydd wedi addo y bydd ei fflyd o awyrennau’n dwyn enwau 14 o bobol enwog o Serbia – a phob un ohonyn nhw’n dal yn fyw.

Mae Novak Djokovic wedi dweud ei fod yn “hapus” o weld ei enw ar yr awyren, a’i fod yn dymuno’n dda i’r cwmni newydd.