Jimmy Savile - cyn-gyflogwr Ray Teret
Mae cyn-yrrwr Jimmy Savile wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth ar ol ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion. Mae wedi ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhyw difrifol yn erbyn genod ifanc.

Fe gafodd Ray Teret, 72, ei ryddhau dan reolau caeth, ac mae i ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion ganol mis Tachwedd.

Mae Ray Teret wedi’i gyhuddo o 32 o droseddau, yn ymwneud a 14 o bobol ifanc ac un oedolyn a oedd yn 17 oed ar adeg y drosedd honedig.

Mae wedi’i gyhuddo o 15 achos o dreisio merched dan 16 oed; un achos o dreisio; un achos o geisio treisio merch dan 16 oed; 6 achos o ymosod yn anweddus ar ferch dan 16 oed; 3 achos o ymosod yn anweddus ar ferch dan 14 oed; ac un achos o ymddygiad anweddus gyda phlentyn dan 13 oed.